Rheolau Ymgynnig yn y Gystadleuaeth
- Mae gwobrau yn agored i bob busnes a leolir neu sy’n masnachu yng Nghymru; pob maint a phob sector.
- Caiff cynigion eu trin yn gyfrinachol ond fe’u rhannir â grŵp dethol o unigolion er dibenion beirniadu.
- Mae’n rhaid i bob cynnig gael ei gyflwyno drwy gyfrwng ffurflen y wefan.
- Ni fydd unrhyw ddolenni gwefannau a ddefnyddir yn eich cynnig, heblaw am y blwch penodol sy’n gofyn am URL y wefan, yn cael eu gweithredu gan y beirniaid. Gellir gofyn am wybodaeth ategol ar adeg y beirniadu.
- Nodwch, os gwelwch yn dda, yr amser hwyaf ar gyfer y fideo yn y cynnig. Ni dderbynnir fideos sy’n hwy na 5 munud.
- Efallai y gofynnir i ymgeiswyr am dystlythyrau gan staff neu gwsmeriaid.
- Beirniadir cynigion gan banel annibynnol ac arbenigol. Bydd yn cynnwys prif noddwyr, noddwyr categorïau, arbenigwyr diwydiannol a chynrychiolwyr y Siambr.
- Cyhoeddir enillwyr gwobrau yn nigwyddiad y gwobrau ddydd Iau, yr 16eg o Fai, 2024 yng Ngwesty Hamdden y Vale.
- Anogir cynnig ar gyfer mwy nag un categori.
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr gael eu hawdurdodi i roi enw’u sefydliad yn rhaglen y gwobrau.
- Mae’n rhaid i gynigion fod yn Saesneg neu yn Gymraeg ac wedi’u cwblhau’n llawn. Nodwch, os gwelwch yn dda, y caiff cynigion Cymraeg eu cyfieithu er dibenion beirniadu.
- Ni chaiff cynigion anghyflawn eu beirniadu.
- Daw ffurflenni a fideos ymgynnig yn eiddo i Siambrau Cymru De-ddwyrain, De-orllewin a’r Canolbarth, ac ni ddychwelir cynigion. Efallai y defnyddir y fideos er dibenion cyfryngau cymdeithasol a hyrwyddo wrth gyhoeddi enwau’r rheiny yn y cylch terfynol.
- Drwy gyflwyno cynnig neu drwy fod yn noddwr ar gyfer y gwobrau, rydych yn rhoi caniatâd inni ddefnyddio’ch logo fel rhan o hyrwyddo Gwobrau Busnes Cymru 2024.
- Mae’ch preifatrwydd yn bwysig inni. Drwy dicio’r blwch uchod, rydych yn cytuno i ni rannu manylion eich cais â’n partneriaid yr ymddiriedir ynddynt sy’n noddi’r gwobrau. Gallwn hefyd ddefnyddio’ch manylion i gysylltu â chi am ein gwasanaethau i aelodau. Caiff eich data personol ei drin â’r gofal mwyaf, yn unol â’n polisi preifatrwydd, y gellir ei ganfod yma: https://cw-seswm.com/privacy-notice/
- Nid yw prawf o anfon cynnig (drwy e-bost) yn brawf ei fod wedi’i dderbyn gan Siambr Cymru De-ddwyrain, De-orllewin, a’r Canolbarth neu’i asiantiaid.
- Mae Siambr Cymru De-ddwyrain, De-orllewin, a’r Canolbarth yn cadw’r hawl i dynnu gwobr yn ôl oddi ar unrhyw ymgeisydd sy’n cyflenwi gwybodaeth ffug yn eu cynnig. Mae beirniaid yn cadw’r hawl i archwilio unrhyw wybodaeth a gyflenwir.
- Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 5.00yp, y 29ain o Chwefror, 2024.
- Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol, ac ni ddechreuir ar ragor o ohebiaeth.
- Ni fydd gan unrhyw gyflogai Siambr Cymru De-ddwyrain, De-orllewin, a’r Canolbarth hawl i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
- Drwy gyflwyno cynnig wedi’i gwblhau ar gyfer y Gwobrau, rydych yn cytuno â’r telerau a’r amodau hyn.