Byddwn hefyd yn dyfarnu ‘Busnes Cymru y Flwyddyn’ i un o’r ymgeiswyr.
Mae a wnelo gwobr Busnes Cymru y Flwyddyn yn llwyr â dathlu llwyddiannau busnesau yma yng Nghymru. Rhoddir y wobr hon i fusnes sy’n bloeddio’n uchel am lwyddiant.
Cyflwynir gwobr Busnes Cymru y Flwyddyn i un o’n hymgeiswyr yn y cylch terfynol neu enillwyr sy’n denu sylw o fysg y gweddill ac a wnaeth argraff drawiadol ar y beirniaid gyda:
- Cryfder eu presenoldeb ar y llwyfan cenedlaethol neu ryngwladol.
- Cyflawni twf ariannol neu gynnal perfformiad ariannol cryf.
- Eu gallu i fodloni gofynion y farchnad.
- Blaenoriaethu profiad ac anghenion eu cwsmeriaid drwy gynnyrch neu wasanaethau arloesol, perthnasol ac sy’n ennyn parch.
- Bod yn gyflogwr gwych – maent yn creu swyddi ar gyfer yr economi lleol, mae ganddynt weithlu medrus ac maent yn gofalu am eu pobl.
- Hyrwyddo ‘Brand Cymru’ – maent yn gyfystyr â Chymru!
Dewisir yr enillydd hwn o’r wobr hon o fysg yr enillwyr a’r rheiny yn y cylch terfynol yng nghategorïau’r wobr.
Rhowch eich enw yn y gystadleuaeth am y gwobrau
Cymerwch olwg ar enillwyr y gorffennol o 2023 a 2022